Pages

2008-04-22

Fflur Dafydd - Ar ol Heddiw

Ar ol Heddiw



Ti’n byw yn fy meddwl fel angel mawr dryslyd



Yn glyd yn fy nghof ti fel atgof mawr chwyslyd

Mor iach, a ma ‘mhen i’n rhy fach



Ti’n hyn na’r bydysawd a’r byd ar dy ben di

Dwi’n barod amdanat dwi ar blat er dy fwyn di

Ond na, ma dy feddwl rhy lân

Ma dy galon yn nhaerni’r tân



Fyddai ddim dy ishe di ar ôl heddi

Ond ma heddi’n mynd i bara am byth

A tra ti mor gysglyd a dwi mor gymysglyd

Fydd ‘na ddeunydd da fan hyn

Fyddai ddim dy ishe di ar ôl heno

Ond ma’ heno’n mynd i bara am byth

A tra ti mor gysglyd a dwi mor gymysglyd

Fydd ‘na ddeunydd da fan hyn



Dwi’n cloddio bob diwrnod er mwyn gweld dy galon

Ma’r sgerbwd yn codi, a’r pridd bach mor fodlon

Ond hei, haws dweud na gwneud



Ma hanes yn rhwbeth sy’n hawdd neud i fyny

Ac ma’n un i yn orlawn o’r holl beth felly

Ond ti, wyt ti’n stori wir, mae dy galon yn nhaerni’n tân





http://www.fflurdafydd.com/english/e-arolheddi.html

No comments: