"Mae’r gantores jazz, Lleuwen Steffan, yn hanu o Ddyffryn Ogwen ac yn gyn-aelod o'r band ‘Acoustique'. Mae ei llais melfedaidd yn adnabyddus ar draws Gymru, yn ogystal a thu hwnt i'r ffin.
Ymysg eu dylanwadau mae Billie Holiday, James Taylor, T H Parry Williams a swn yr adar a’r nant a’r gwynt.
Yn 2005, rhyddhaodd Lleuwen CD o fersiynau cyfoes o emynau poblogaidd o gyfnod y Diwygiad – ‘Duw a Wyr.’
Bellach, mae Lleuwen yn byw ym Mhenmon, Ynys Môn, a dyna oedd enw ei halbym ddiweddaraf a ryddhawyd yn 2007.
Mae’n rhaid bod cerddoriaeth yng ngwaed Lleuwen, gan ei bod hi'n ferch i Steve Eaves – canwr, cyfansoddwr a bardd."
http://www.bandit247.com/perl/bandit247.pl?rm=av;a=77;vt=226
No comments:
Post a Comment